Swyddi mewn Addysg gyda TeacherActive

Pam TeacherActive?

Ni yw un o’r asiantaethau recriwtio addysg mwyaf yn y Deyrnas Unedig

Diolch i’n rhwydwaith partneriaeth helaeth, rydyn ni’n gallu dod o hyd i’r ateb perffaith i chi:
  • Cewch fynediad at swyddi gwag mewn dros 3,600 o ysgolion a sefydliadau addysgol ledled y Deyrnas Unedig.
  • Cyfle i fwynhau cyflog cyson, rheolaidd, a delir fel Talu Wrth Ennill.
  • Cymorth cynhwysfawr gan ymgynghorydd penodol ar eich cyfer chi.
  • Hyfforddiant DPP am ddim gyda My-Progression.

Ein gwerthoedd

DNA TeacherActive sy’n cwmpasu popeth rydyn ni’n ei wneud.Dan arweiniad arbenigedd ac ysbrydoliaeth, rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio ein gwybodaeth i wella eich gyrfa ym myd addysg.

Mae ein hethos yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’ch sgiliau a’ch rhinweddau personol a’u cyfateb i’ch lleoliad addysg delfrydol. Drwy fuddsoddi mewn technoleg o’r radd flaenaf a hyfforddiant blaenllaw yn y farchnad, rydym yn sicrhau eich bod yn cael gwasanaeth rhagorol bob tro, ac mae ein hymgynghorwyr gwybodus yn sicrhau bod eich cwestiynau’n cael eu hateb a’ch bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw rolau posibl newydd.

balchder

angerdd

atebolrwydd

gwybodaeth

gwytnwch

Daliwch ati â career ch gyrfa

Gyda gwybodaeth gan My-Progression, byddwch yn cael eich grymuso i roi hwb enfawr i’ch gyrfa addysg.

Mae ein hyfforddiant fideo DPP pwrpasol yn ymdrin â phopeth sydd ei angen arnoch i gamu’n hyderus i’r ystafell ddosbarth. Ar ben hynny, gallwch brofi eich arbenigedd addysgol gyda thystysgrifau DPP.

A’r peth gorau oll? Mae My-Progression yn rhad ac am ddim!
Mynd i My-Progression

Ydych chi’n ystyried newid change gyrfa?

Mae’n bosibl nad ydych chi wedi ystyried gyrfa ym maes recriwtio o’r blaen – siaradwch â’n tîm i gael rhagor o wybodaeth; nid oedd gan rai o’n recriwtwyr sy’n perfformio orau a’r rhai sy’n cael y cyflogau uchaf brofiad o recriwtio o gwbl cyn dechrau gyda ni!

Rhagor o wybodaeth am ddod yn un ohonom ni
Gyrfaoedd gydag TeacherActive