TeacherActive yw un o’r asiantaethau recriwtio addysg mwyaf yn y Deyrnas Unedig
Rydyn ni’n deall pa mor brysur y gall y diwrnod ysgol fod, a bod dod o hyd i’r staff iawn ar gyfer eich ysgol neu leoliad addysg yn gallu bod yn dasg anodd. Ymddiriedwch ynom ni i dynnu’r pryder o’ch proses recriwtio er mwyn i chi allu canolbwyntio ar yr hyn rydych chi’n ei wneud orau: Addysgu meddyliau ifanc.
Diogelwch ac amddiffyn yw ein prif flaenoriaeth, ac mae ein mesurau diogelu trwyadl wedi cael eu cydnabod gan y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth (REC)
Bob blwyddyn, rydym yn cyflenwi staff o ansawdd uchel sydd wedi eu harchwilio’n llawn ac wedi cael eu gwirio gan ein tîm Cydymffurfio mewnol i fwy na 3,600 o leoliadau ysgolion, addysg bellach, EYFS ac Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd. Mae’r ymgeiswyr hyn hefyd yn cael cyfle i gael hyfforddiant DPP gennym ni wrth iddynt weithio, gan barhau i uwchsgilio eu hunain i ategu eich nodau dysgu ymhellach.
Darparu proses recriwtio addysg sydd wedi hen ennill ei phlwyf er mwyn cyflawni nodau dysgu rhagorol.
Cyn i chi gwrdd ag unrhyw un o staff addysg TeacherActive, byddwn yn gwneud y canlynol:
- Cyfweliad wyneb yn wyneb, a sesiwn friffio am eich ysgol.
- Archwiliadau cynhwysfawr o hunaniaeth a chefndir.
- Geirdaon proffesiynol trylwyr.
- Gwirio Rhestr Gwaharddiadau.
- Gwiriadau Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.