Daliwch ati â’ch gyrfa gyda My-Progression

Cyngor arbenigol ar gyfer gyrfaoedd addysgu ac addysg

Mae pawb yn gwybod bod addysg yn arf pwerus, ond pam ddylen ni roi’r gorau i ddysgu wrth i ni ddod yn addysgwyr ein hunain?

Rydyn ni’n gwybod pa mor brysur y gall bywyd fod, felly rydyn ni eisiau gwneud yn si?r eich bod chi’n gallu rhoi hwb i’ch sgiliau mewn addysg, mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’ch amserlen.

Dyna pam rydym wedi creu fideos DPP byr yn My-Progression ar gyfer athrawon a staff addysg sy’n rhoi sylw i’r pynciau sy’n bwysig i chi. Mae’r cyfan ar gael ar YouTube, i gyd am ddim.

Edrychwch ar ein sianel

Dim ond clic sydd rhyngoch chi a cham ymlaen yn eich gyrfa

Mae ein fideos yn mynd â chi drwy bopeth rydych chi angen ei wybod am y diwydiant addysg. Sicrhewch y swydd ddelfrydol honno neu enillwch ddyrchafiad gyda’n cynghorion ar ysgrifennu CV, cyfweliadau am swydd ac awgrymiadau ar gyfer lleoliadau, byddwch yn bencampwr yr ystafell ddosbarth gyda’n cyfres gyfathrebu, dewch yn ôl i’r arfer o hoffi cynllunio gwersi a rhowch eich ymdrech orau mewn unrhyw leoliad proffesiynol gyda chefnogaeth ein pynciau diogelu a rheoli ymddygiad.

Mae My-Progression yn cael ei wneud gan addysgwyr, ar gyfer addysgwyr, ac wedi ei gynllunio gyda’ch datblygiad gyrfa mewn golwg. Gydag adnoddau addysgu am ddim, tystysgrifau DPP a hyfforddiant diogelu wyneb yn wyneb, rydym yn ymdrin â phopeth y mae angen i chi ei wybod er mwyn cael gyrfa lwyddiannus ym maes addysgu ac addysg.

Profwch eich gwybodaeth gyda thystysgrifau DPP am ddim

Ar ôl i chi wylio ein fideos, ewch i’n tudalen tystysgrifau. Yno, gallwch brofi eich gwybodaeth a’ch sgiliau, a chael tystysgrifau am ddim yn syth i’ch blwch derbyn y gallwch eu cadw, eu hargraffu a’u dangos i gyflogwyr.

ewch â fi at y tystysgrifau
 

Cofrestrwch heddiw

Yn ogystal â deunydd fideo, rydym wedi darparu adnoddau i chi y gallwch eu llwytho i lawr a’u defnyddio yn eich gyrfa, bob cam o’r ffordd.

Cofrestrwch heddiw i gael mynediad at adnoddau arbenigol, a defnyddio eich sgiliau o My-Progression mewn gyrfa werth chweil mewn addysg gyda TeacherActive.
* Meysydd gofynnol