Allwn ni ddim canmol y tywydd yma bob amser, ond mae bywyd yn y Deyrnas Unedig yn gwbl unigryw! Gwlad sy’n llawn hanes a diwylliant, bywyd nos, golygfeydd gwych a chanolfannau metropolitan - gyda TeacherActive gallwch deithio i’r Deyrnas Unedig a datblygu eich sgiliau ar yr un pryd.
Ydych chi’n athro neu’n staff cymorth addysgol sy’n awyddus i gymryd cam cyffrous ymlaen yn eich gyrfa?
Byd o bosibiliadauynn aros amdanoc chi
Drwy gofrestru gyda TeacherActive i ddysgu yn y Deyrnas Unedig, rydych chi’n agor y drws i fanteision gyrfa mawr.
Drwy fod yn addysgwr yn y Deyrnas Unedig, gallwch ddisgwyl:
- Gweithio mewn gwahanol ysgolion, gan ennill profiad unigol ym mhob un.
- Dysgu cwricwlwm tebyg i’ch un chi, ond mabwysiadu dulliau dysgu ac arddulliau addysgu gwahanol.
- Ehangu eich CV gyda sgiliau newydd, y gallwch fynd â nhw adref gyda chi a'u defnyddio yn ysgolion eich gwlad.