Elusen

Rydym yn elusennol yma yn TeacherActive

Rydyn ni’n credu bod rhoi’n ôl yn eithriadol o bwysig ac yn ymfalchïo yn ein gwaith elusennol brwd dros sawl achos.

O frwydrau lip-sync i gystadlaethau pobi, dringo mynyddoedd a rasys elusennol, plymio o’r awyr, heriau cwstard ac ymdrechion Record Byd Guinness, rydym yn mynd yr ail filltir i gefnogi nifer o achosion elusennol bob blwyddyn.

Dyma rai elusennau rydym wedi eu cefnogi:

Yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig

Plant Mewn Angen

Comic Relief

Sefydliad Iechyd Meddwl

Movember

Cymorth Canser MacMillan

Achub y Plant

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Stonewall

Together for Short Lives
 

Dros £14,000 wedi ei godi yn ystod y 3 blynedd diwethaf, a mwy i ddod!

Yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig

Yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig yw’r elusen o’n dewis ac mae’n agos at ein calonnau.Mae’r elusen yn ymdrechu i greu dyfodol gwell i’r rhai sy’n byw gyda ffibrosis systig, gan gyllido ymchwil arloesol, codi safonau gofal a chefnogi’r rhai sydd â chyflwr ar yr ysgyfaint ynghyd â’u teuluoedd.

Rhoi arian i’r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig

Rydyn ni’n mynd i’r eithaf i’r elusen, gan hyd yn oed gymryd rhan mewn sesiwn awyrblymio noddedig! Ar ben hyn, yn 2023 TeacherActive yn rhoihwb i roddion drwy ymrwymo i dreblu’r swm mae ein tîmwedi ei godi.



 

Effaith Weithredol: cefnogi cymunedau lleol

Mae ein timau ledled y wlad yn gweithio’n agos gydag elusen o’u dewis yn eu hardal leol, gydag arian yn cael ei roi gan TeacherActive.

Mae hyn yn sicrhau bod sefydliadau llai, neu’r rhai sydd fwyaf mewn angen, yn gallu elwa ar roddion untro neu barhaus a chymorth corfforol gan ein tîm.

GROUNDWORK

Mae TeacherActive yn gweithio gyda GROUNDWORK i ysbrydoli cymunedau ac ysgolion i greu newid parhaol ar gyfer byd gwyrddach trwy gyfrannu arian i ariannu gofod dysgu awyr agored.

Bydd y gweithgareddau awyr agored hyn hefyd yn dysgu gwybodaeth werthfawr i blant ysgol am yr amgylchedd maent yn byw ynddo a sut gallant helpu i’w gynnal.